Julie Donaldson’s Detective Dog at The Welfare Ystradgynlais, Swansea

Tiny & Tall Productions: Detective Dog

Daw Tiny & Tall Productions â stori boblogaidd Julia Donaldson a Sara Ogilvie, The Detective Dog i’r llwyfan yn arbennig ar gyfer cynulleidfaoedd teuluol.

Boed hynny’n dod o hyd i esgid goll neu’n darganfod pwy wnaeth faw ar y llwybr newydd, mae trwyn Nel yn gweithio’n galed bob awr o’r dydd. Felly pan mae llyfrau’r ysgol wedi diflannu un bore, mae’r Ci Ditectif Nel yn barod i ganfod y troseddwr!

Gyda Iaith Arwyddion Prydain, capsiynau creadigol a Saesneg llafar, mae’r cynhyrchiad deniadol yma’n dathlu llyfrau, a hud darllen, mewn perfformiad cynhwysol a hygyrch. Cewch fwynhau pypedwaith cyfareddol; arogleuon annisgwyl a cherddoriaeth fywiog.

Addas ar gyfer oedrannau 3-103.

Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr.

Mae’r dramateiddiad yma o The Detective Dog yn seiliedig ar y llyfr lluniau The Detective Dog © Julia Donaldson a Sara Ogilvie 2016, cyhoeddwyd gan Macmillan Children’s Books.

TOCYNNAU:
Talwch Beth Allwch Chi:
£8.50, £10.50, £12.50, £14.50*, £16.50, £18.50 (*Pris Safonol a Awgrymir)

Mae tocynnau ar gyfer llawer o’n sioeau a’n darllediadau byw ar werth ar sail talu beth bynnag allwch chi, sy’n golygu y cewch chi ddewis y pris gorau i’ch poced. Noddir tocynnau lefel isaf, tra mae’r pris uchaf yn rhoi ychydig bach ychwanegol i’r Neuadd Les, sy’n helpu ariannu ein gweithgareddau cymunedol.

Ar gyfer pob digwyddiad, fel canllaw, mae’r pris safonol a awgrymir wedi’i amlygu mewn print trwm.

Dydd Mercher 25 Maw 2026
16:30