Mae Tic Toc yn stori gerddorol am grŵp o ffrindiau agos oedd yn gweithio gyda’i gilydd mewn ffatri. Bu’r criw yn canu, chwerthin a dawnsio gyda’i gilydd, yn profi cryfder eu cyfeillgarwch gyda bod y byd o’u cwmpas yn newid. Yna ddo’th rhwyg i amharu ar eu cyfeillgarwch. A nawr mae aduniad wedi’i drefnu…. ond mae un ohonynt heb dderbyn gwahoddiad!
Mae Tic Toc yn talu teyrneged i fenywod y ffatri mewn sioe sydd wedi’i seilio ar eu straeon a’u hatgofion. Ymunwch â nhw i ail-fyw’r gorffennol wrth iddynt ddod at ei gilydd i ail-greu’r amseroedd da a’u ieuenctid!
DS: Mae Tic Toc yn sioe ddwyieithog
Sgript a chyfarwyddo: Valmai Jones
Caneuon a chyfarwyddo cerdd: Catrin Edwards
Cast:
- Gillian Elisa: Billy Elliot West End, Alys S4C, 35 Diwrnod S4C, Stella Sky TV, Sherlock BBC, Gavin & Stacey BBC, A Mind to Kill S4C / Channel 5
- Lowri-Ann Richards: New Romantic cantor, alter ego LaLa Shockette, / seren cabaret a sioeau un fenyw, Pobl y Cwm BBC Cymru
- Clare Hingott: Tourist Trap BBC Cymru, Stella Sky TV, The Indian Doctor BBC Cymru, 2 Dŷ a Ni S4C
- Olwen Rees: Stella Sky TV, 35 Diwrnod S4C, The Lifeboat BBC, Jack of Hearts BBC, The Life & Times of Lloyd George BBC, Poems & Pints BBC Cymru
- Mary-Anne Roberts: Gwaith theatrig arbrofol, Chapter, aelod o fand gwerin Bragod
- Carys Gwilym: Rybish S4C, Nyrsys Theatr Genedlaethol, Bankrupt Bride Theatr na nÓg
Dydd Sadwrn 25 Maw 2023
19:30