cy

Theatr Sherman: Hansel a Gretel (Yn Iaith Cymraeg)

Mae Hansel and Gretel yn gyflwyniad perffaith i’r theatr ar gyfer plant rhwng 3 a 6 oed.

Mae hi’n Noswyl Nadolig ond mae rhywbeth o’i le yn y goedwig. Mae coed pinwydd yn troi’n goed Losin. Mae’r afon yn gorlifo gyda thriog. Gwaith Sioned Siocled yw’r cyfan sy’n troi bob dim yn losin! Dim ond Hansel a Gretel sy’n sefyll yn ei ffordd.

Ânt ymaith ar antur anhygoel i achub y goedwig. Ar eu taith byddant yn cyfarfod ffrindiau newydd hudol megis Spencer y Wiwer a Trefor y Goeden. Byddant hefyd yn dysgu mai holi am gymorth yw’r peth dewraf y gall unrhywun ei wneud.

Yn llawn caneuon a chwerthin, mae’r fersiwn newydd yma o Hansel a Gretel yn stori y mae pawb yn ei garu gyda thro ychwanegol blasus a chwareus. Mae sioe Nadolig hudolus Theatr y Sherman wedi’i greu’n arbennig ar gyfer y rheiny rhwng 3-6 oed yn cynnig rhyfeddod, cyfaredd a llawer iawn o hwyl.

Perfformir y cynhyrchiad hwn yn Cymraeg ac fe’i crëwyd yn arbennig i gyflwyno hud y theatr i blant bach.

Gan Katie Elin-Salt | Cyfieithiad Cymraeg gan Branwen Davies | Cyfarwyddwyd gan Joe Murphy

Dydd Llun 13 Tach 2023
11:00