cy

Theatr Iolo: Owl at Home

Mae ‘Owl’ yn byw mewn tŷ bach clyd mewn boncyff gwag yn y goedwig. Ond gan fod ‘Owl’ yn unig druan, mae’n canu iddo’i hun ac yn chwilio am ffyrdd i ladd yr amser. Mae’n pendroni llawer am bethau. Beth fyddai’n digwydd pe bai’n gwahodd y gaeaf i mewn i’w dŷ Ydi ‘Owl’ yn gallu bod mewn dau le ar yr un pryd?

Wrth i’w ddychymyg garlamu, mae pethau o’i gwmpas yn dechrau dod yn fyw. Ac mae’n dod o hyd i ffrind yn sydyn, ffrind sy’n barod i’w ddilyn i ben draw’r byd… os yw ‘Owl’ yn dymuno hynny neu beidio!

Mae Owl at Home yn stori hudolus gyda cherddoriaeth, a honno’n dangos sut mae cyfeillgarwch yn cuddio yn y llefydd mwyaf annisgwyl.

Canllaw Oedran: Plant rhwng 5 ac 11 oed

Wedi’i seilio ar y llyfr â darluniau i blant gan Arnold Lobel Addaswyd i’r llwyfan gan Rina Vergano + Theatr Iolo

Dydd Mercher 4 Hyd 2023
11:00
Dydd Mercher 4 Hyd 2023
13:15