cy

Theatr Iolo: Baby, Bird & Bee

Theatr Iolo yn cyflwyno Baby, Bird & Bee | Crëwyd gan Sarah Argent a Kevin Lewis

Dewch i ymlacio gyda’ch babi tra bod y garddwr yn brysur wrth ei waith yn plannu hadau ac yn dyfrio’r ardd brydferth. Yn fuan bydd aderyn, gwenynen ac wrth gwrs y babanod yn gwmni hyfryd i’r garddwr hapus. Gyda’ch gilydd byddwch yn darganfod golygfeydd a synau’r ardd a bydd eich rhai bychain wrth eu boddau!

Ar ddiwedd y sioe bydd cyfle i chi a’ch babi aros i chwarae gyda gwrthrychau sydd wedi’u dewis yn arbennig.

Mae Sarah Argent a Kevin Lewis yn wneuthurwyr theatr arobryn sydd wedi creu nifer o sioeau hudolus ar gyfer babanod. Mae ganddynt ddawn arbennig o ddal sylw ac adlonni babanod a phlant ifanc.

Gwybodaeth:
Iaith: Perfformir Baby, Bird & Bee yn Saesneg.
Cyfyngiad Oedran: 6 – 18 mis (gweler yr esboniad isod)
Hyd y sioe: 45 munud (20-25 munud o sioe a 20 munud i ‘aros a chwarae’)
Lleoliad: Perfformir y sioe dan do

Cwestiynau Cyffredin:

Galla i ddod â babi ieuengach / hŷn neu frawd neu chwaer i’m mabi?
Mae’r sioe hon yn addas i fabanod 6-18 mis oed yn unig. Mae babanod iau na 6 mis yn rhy ifanc i fwynhau’r sioe tra bod plant hŷn yn debygol o dynnu sylw’r babanod. Dyma’r rheswm ein bod yn gosod cyfyngiad oed ar y perfformiadau hyn – fel bod modd i bawb fwynhau’r perfformiadau yn llawn.

Golygir hyn na chaniateir mynediad i blant hŷn (yn cynnwys brodyr a chwiorydd) i’r perfformiadau hyn. Gobeithiwn y bydd hyn yn gwarchod profiad arbennig y gallwch chi ei rannu gyda’ch babi/babanod.

Beth sy’n gwneud y sioe hon i fabanod yn arbennig?
Mae gan Sarah Argent a Kevin Lewis sawl blwyddyn o brofiad o gyd-greu sioeau i fabanod. Mae ganddynt enw da yn rhyngwladol am eu gallu i greu sioeau tyner, apelgar i blant ifanc iawn. Maent wedi cydweithio â gwyddonwyr i ddarganfod beth sy’n gwneud i fabanod chwerthin ac wedi datblygu technegau arbennig sy’n sicrhau bod y perfformiadau yn dal sylw babanod ifanc!

Pam mai ond 20-25 munud yw hyd y sioe?
Mae Sarah a Kevin wedi arbrofi gyda hyd perfformiadau dros y blynyddoedd, a dyma ydy’r hyd perffaith ar gyfer y grŵp oedran yma. Mae ymennydd babi yn dal i ddatblygu a thyfu yn gyflym, ac yn aml mae angen cwsg neu gyfle i orffwys ar ôl profiad synhwyraidd megis Baby, Bird & Bee. Bydd cyfle i aros a chwarae gyda theuluoedd eraill yn yr ystafell ar ôl y sioe.

Beth yw trefn y seddi?

Gwyddom fod babanod ifanc yn hoffi llawer o le i symud, ymestyn, bwydo a chropian, ac felly mae babanod (a’u hoedolion) yn eistedd ar fatiau mawr ar y llawr yn ystod y sioe hon. Mae digon o le iddynt ar y mat i symud fel sydd angen.

Rydyn ni hefyd yn cadw niferoedd ein cynulleidfa yn isel, fel bod digon o le gan bawb ac i gadw’r profiad yn gyfforddus i bawb.

Dw i’n poeni am sut fydd fy mabi yn ymateb!
Rydyn ni’n annog y babanod i ymateb mewn unrhyw ffordd – baldorddi, chwerthin, siarad (os ydyn yn siarad eto!) neu igian! Os ydy’ch babi yn ansicr o’r profiad newydd, yn aml mae sefyll ar eich traed a symud eich babi ychydig yn bellach oddi wrth y perfformiad yn helpu nhw i ymlacio a gwylio’r sioe. Os ydy’ch babi yn cynhyrfu mae croeso i chi fynd allan, a bwydo neu gwtsio’r bychan nes eu bod nhw’n teimlo’n barod i ddod nôl i mewn.

Dydd Gwener 2 Mai 2025
11:00
Dydd Gwener 2 Mai 2025
12:30
Dydd Gwener 2 Mai 2025
14:00