cy

The Royal Ballet: Romeo and Juliet

Mae Romeo a Juliet wedi dyfod yn rhan fawr o’r drysorfa bale clasurol modern ers i Kenneth MacMillan, Cyfarwyddwr y Royal Ballet ei greu a’i berfformio gyntaf ym 1965.

Dangosiad arbennig ar Ddydd Sant Ffolant yw hwn, ble mae’r cariadon tynghedus yn ceisio ymlwybro drwy liwiau a bwrlwm Verona’r Dadeni. Mae’r farchnad brysur yn troi mewn i ornest gleddyfau’n ddigon buan a chynnen deuluol yn arwain at drasiedi i’r Montagues a’r Capulets

Hyd y cynhyrchiad: 3 awr a 25 munud (yn cynnwys dau egwyl)

Dydd Llun 14 Chw 2022
19:15