cy

The King of Nothing

Mae’r Brenin Reginald yn hoff o reoli ei deyrnas mewn steil, ond wrth i fyd ffasiwn newid yn gyflym o’i amgylch, mae’n poeni nad yw’n llwyddo i aros ar flaen y gad…

Ar ôl clywed am broblem y Brenin, mae dau ddyluniwr yn mentro i’r palas gyda’u ffabrig newydd sbon – mae’r ffabrig yma’n un arbennig sydd DDIM yn mynd mas o ffasiwn. Mae’r Brenin yn cyffroi wrth siarad am y ffabrig hud a lledrith ac yn edrych ymlaen at wisgo ei siwt newydd yn yr orymdaith fawr. Ond ydy’r dylunwyr yma’n dweud y gwir…?

Dyma gynhyrchiad hudolus o sioe gerdd bypedau newydd wedi’i hysbrydoli gan The Emperor’s New Clothes gan Hans Christian Andersen.