cy

The Elves and the Shoemaker (Iaith Saesneg)

Mae Theatr y Sherman yn cyflwyno The Elves and the Shoemaker
Gan The Brothers Grimm | Addasiad gan Katherine Chandler

Nid yw esgisdau bendibompom yn creu eu hunain wyddoch chi!

Mae Clara’r crydd yn llwglyd ac yn oer. Nid oes unrhyw un eisiau prynu ei hesgidiau. Un bore, er syndod iddi, mae’n canfod bod rhywun wedi creu pâr o’r esgidiau mwyaf crand yn ddirgel dros nos. Esgidiau a fydd yn gwerthu’n gyflym iawn. Mae lwc Clara ar fin newid. Pwy ddylai ddiolch iddynt am y newid mawr hwn?

Mae The Elves and the Shoemaker gan Katherine Chandler yn ffordd berffaith i gyflwyno’r plant i hud y theatr.

I blant oed 3 – 6.