Cyd-gynhyrchiad gan Theatr Taking Flight / LAStheatre/ Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen
Adran y Digwyddiadau Rhyfedd yn cyflwyno The Conjurer of Cwrtycadno
Ydych chi’n ddewr ac yn chwilfrydig? Ai rhywun tawel, di-gyffro ydych chi? Oes gyda chi brofiad o ddelio â’r Tylwyth Teg? Os felly, mae ar Adran y Digwyddiadau Rhyfedd angen eich cymorth chi.
Tra oedd hi wrthi’n ymchwilio i hanes ei chyndadau a’i chynfamau yn Llyfrgell Cenedlaethol Cymru, fe ddaeth menyw ifanc o’r enw Heledd Harries o hyd i lyfr gan ei Hen-Hen-Hen-Hen-Dadcu. Llyfr swynion oedd e! Doedd gan Heledd ddim amcan am yr hud a oedd yn byrlymu yn ei gwaed, nac ychwaith am y twrw yr oedd hi ar fin ei godi. Erbyn hyn mae angen eich help chi arnon ni i fynd â channoedd o’r Tylwyth Teg dryslyd adref!
Stori antur hygyrch, addas i deuluoedd, yw The Conjurer of Cwrtycadno. Mae’r sioe’n gyfuniad o helfa drysor a chynhyrchiad theatr, a bydd yn cynnwys disgrifiad integredig mewn BSL a disgrifiad sain byw.
Ymunwch â ni ar gyfer y chwedl ryfeddol hon, sy’n dathlu llên gwerin Cymru, hud a’r tymhorau cyfnewidiol.