Ydych chi’n ddysgwr Cymraeg neu’n rhywun sydd eisiau magu hyder I ddefnyddio’ch Gymraeg mewn ffordd greadigol a hwyliog?
Mae Cymru yn wlad llawn chwedlau a straeon. Mae gan bob pentref a bro stori ysbryd, a phob tref stori am y Tylwyth Teg. Oes gennych chi stori am brofiadau arswydus y mae’n rhaid i chi ei rhannu?
I gyd-fynd â pherfformiadau’r Consortiwm Cymraeg o’r sioe theatr Y Fenyw Mewn Du, bydd Owen Staton, storïwr proffesiynol yn eich helpu i adrodd eich hanes ac i rannu eich stori yn Gymraeg.
Byddwch yn cael eich annog i ddefnyddio eich Cymraeg drwy ddysgu i adrodd y chwedlau hyn yn draddodiadol, yn union fel y chwedleuwyr gynt. Bydd y sesiwn hefyd yn gyfle i ddysgu am straeon a chwedlau newydd o’ch ardal leol.
Mae croeso i siaradwyr Cymraeg o bob lefel, a bydd pawb yn cael eu cefnogi i ddefnyddio’r iaith cymaint ag y dymunant.
Dewch i rannu eich straeon gyda ni. Byddai’r Fenyw mewn Du wrth ei bodd yn eu clywed.
Yn addas i oedran 14 – oedolion.
Rydym yn cynnal Gweithdai Celf Papur iasol hefyd ar ddyddiadau dethol ym mis Hydref a Thachwedd – Mwy o wybodaeth yma.