Silver Screening: Palestine 36 (12A)
Palestina, 1936. Y gwrthryfel a heriodd Ymerodraeth. Gyda niferoedd cynyddol o fewnfudwyr Iddewig yn ffoi rhag gwrth-semitiaeth yn Ewrop, a’r boblogaeth Balesteinaidd yn uno yn y gwrthryfel mwyaf a hiraf yn erbyn goruchafiaeth Prydain dros 30 mlynedd, mae’r carfannau’n rhuthro ar eu pennau i wrthdrawiad anochel mewn ennyd tyngedfennol i Ymerodraeth Prydain ac i ddyfodol y rhanbarth i gyd. Y ddrama epig hon gyda Jeremy Irons yn serennu yw ymgais swyddogol Palestina ar gyfer y Best International Feature yng Ngwobrau’r Academi 2026.
Hyd y Ffilm: 120 munud.