cy

Shirley Valentine Community Workshop: Helo Wal!

Ymunwch â ni am gyfres o weithdai cymunedol a darganfod mwy am ein cyfieithiad Gymraeg newydd o Shirley Valentine, ar daith dros Gymru ym mis Mawrth 2022.

Yn iaith Cymraeg – Yn addas i ddysgwyr.

Dewch i gael y pip cynta o gartre Shirley gyda’r cynllunwyr. Gadewch iddyn nhw eich arwain drwy'r dewisiadau cynllunio ar gyfer y ddrama, dangos y manylion mewn bocs model (fersiwn bychan o’r set), ac ateb eich cwestiynau am holl elfennau’r broses cynllunio.

Dydd Mawrth Rhagfyr 14, 4-6yp
Mynediad am Ddim