cy

Shirley Valentine Community Workshop: Cwrdd â Shirl

Ymunwch â ni am gyfres o weithdai cymunedol a darganfod mwy am ein cyfieithiad Gymraeg newydd o Shirley Valentine, ar daith dros Gymru ym mis Mawrth 2022.

Yn iaith Cymraeg – Yn addas i ddysgwyr.

Dewch i gwrdd â Shelley Rees a chlywed sut y mae hi’n mynd i'r afael â chwarae Shirley, gyda blas neu ddau o'r sgript – eich rhagflas personol chi, a chyfle euraidd i ofyn bob math o gwestiynau, fel – sut ar wyneb y ddaear MAE dysgu gwerth dwy awr o ddrama?

Dydd Mercher, Rhagfyr 7, 4-6yp
Mynediad am Ddim