cy

Shirley Valentine

Shirley Valentine gan Willy Russell

Cyfieithiad newydd i’r Gymraeg gan Manon Eames

Cyfarwyddwr Geinor Styles Cynllunydd Jacob Hughes Cynllunydd Goleuo Cara Hood

gyda Shelley Rees fel “Shirley”

Ar daith ym mis Mawrth 2022 (manylion llawn a dyddiadau i’w cadarnhau)

Dychweliad comedi aruthrol o waith awdur Blood Brothers ac Educating Rita – ond tro yma, wedi ei pherfformio yn y Gymraeg.

Mae Cool Cymru wedi glanio ym Merthyr, ac i bobl ifanc mae bywyd o’r diwedd yn llawn cyffro, Catatonia y Stereophonics – ac alcopops.

Nid felly i Shirley druan. I Shirley, mae bywyd a chyffro yn perthyn i’r gorffennol – ac mae’r  blynyddoedd treuliodd yn troedio yn ei rhigol, yn wraig tŷ difflach a di-nod, wedi rhoi tolc yn ei hyder a’i breuddwydion. Ond mae Shirley ar fin camu i fyd fydd yn trawsnewid ei bywyd yn gyfan gwbl. Ymunwch â hi wrth iddi ffarwelio â fformeica’r gegin a’i drwco am bythefnos o wyliau yng  Ngroeg : pythefnos fydd yn newid Shirley am byth.

Shelley Rees (BBC Radio Cymru, Pobol Y Cwm) fydd yn serennu fel Shirley Valentine yn y gomedi ddisglair yma sydd yn siŵr o godi calon a chynnal ysbryd ar ôl caledi’r cyfnod clo. Yn addas i bawb o ddysgwyr i siaradwyr rhugl. Dewch gyda ffrind, dewch gyda chriw, i fwynhau anturiaethau Shirley a hedfan gyda hi ar ei thaith annisgwyl  i Baradwys – a bywyd newydd.

Dydd Iau 24 Maw 2022
19:30
Dydd Gwener 25 Maw 2022
19:30
Dydd Sadwrn 26 Maw 2022
19:30