Sherman Theatre: Pinocchio (In English)
Cynhyrchiad Crëwyd gan y Sherman
PINOCCHIO
Fersiwn newydd gan Jennifer Lunn
Cyfieithiad Cymraeg gan Hanna Jarman
Daw Theatr y Sherman â'i chyflwyniad newydd a llawen o un o straeon mwyaf hudol y byd –Pinocchio i'r Neuadd Les Ystradgynlais fis Tachwedd yma.
Mae Pinocchio yn dyheu am gael bod yn fachgen go iawn, er mwyn gweld y byd mawr. Mae e eisiau bod ‘yn dda, yn garedig ac am ddweud y gwir’, ond ar ôl dweud celwydd bach mae ei drwyn yn tyfu ac mae’n mynd ar antur wyllt yn llawn peli eira, gemau gwirion, ffrindiau direidus newydd a llond trol o hwyl.
A fydd Pinocchio yn dysgu’r gwahaniaeth rhwng yr hyn sy’n iawn a’r hyn sy’n anghywir ac yn cyrraedd adre mewn pryd i’r Nadolig?
Pinocchio yw’r cyflwyniad perffaith i ryfeddod theatr fyw i blant 3-6 oed a’u teuluoedd. Yn llawn dop â cherddoriaeth, chwerthin a llu o gymeriadau poblogaidd a ddaw’n fyw diolch i gast o actorion-cerddorion.
Hyd y perfformiad: Tua 60 munud
Perfformir yn Saesneg
Addas i blant 3-6 oed