The Zoo That Comes to You at The Welfare Ystradgynlais, Swansea

Scarlet Oak Theatre: The Zoo That Comes to You

Mae The Zoo That Comes to You yn dilyn ymdrechion dau gymeriad, sy’n selog dros anifeiliaid, i rannu eu cariad at anifeiliaid, a’u pryder amdanynt, gyda’r byd.

Dewch i gwrdd â’r grŵp eclectig yma o anifeiliaid swynol ond direidus, wrth iddynt drafod eu profiad bywyd a’r heriau maent yn eu hwynebu mewn byd sy’n newid mor gyflym. Mae ganddynt ddigon i’w ddweud ac maen nhw eisiau ysbrydoli pobl o bob oed i weithredu, am eu bod yn gwybod y gall gweithredoedd bychain wneud gwahaniaeth mawr yn y byd.

Gyda phypedwaith, cerddoriaeth fyw a chymeriadau chwareus, mae Scarlet Oak Theatre yn eich croesawu i ymuno â’r sgwrs am gadwraeth anifeiliaid.

Hyd y Sioe: 60 munud.
Addas ar gyfer oedrannau 5+ ond croesewir cynulleidfaoedd iau ac oedolion ar eu pen eu hunain.

TOCYNNAU:
Talwch Beth Allwch Chi:
£9, £11, £13*, £15 (*Pris Safonol a Awgrymir)

Mae tocynnau ar gyfer llawer o’n sioeau a’n darllediadau byw ar werth ar sail talu beth bynnag allwch chi, sy’n golygu y cewch chi ddewis y pris gorau i’ch poced. Noddir tocynnau lefel isaf, tra mae’r pris uchaf yn rhoi ychydig bach ychwanegol i’r Neuadd Les, sy’n helpu ariannu ein gweithgareddau cymunedol.

Ar gyfer pob digwyddiad, fel canllaw, mae’r pris safonol a awgrymir wedi’i amlygu mewn print trwm.

“Splendidly synchronised… Jasmine Orchard and Lucia d’Inverno infuse the room with joyful music, silliness and fabulous puppetry.”– Everything Theatre ★★★★

“A perfect balance of entertainment, education and beautiful design, the performance pulls you in and helps bring to life the issue of wildlife conservation.”– Director of The Exeter Fringe 2021

“Absolutely lovely and charming show… My wee lad absolutely loved it. He is autistic, but giggled the whole way through and it was a delight for his mum and dad to see him having a good time. Thank you!” –Audience Member

Dydd Iau 9 Ebr 2026
14:00