Daw’r artist Sahra Halgan o Somaliland, gwlad yng Nghorn Affrica sydd wedi bod yn annibynnol ers 1991, ond sydd heb ei chydnabod hyd yma gan y gymuned ryngwladol.
Nyrs oedd hi’n wreiddiol, ac enillodd yr enw ‘Halgan’ – Yr Ymladdwr – yn yr wythdegau pan fuodd hi’n rhan o’r rhyfel ofnadwy yn erbyn yr unbennaeth. Caiff ei hedmygu am hynny – ond ei cherddoriaeth sydd wedi ei gwneud yn eicon. Dyma gerddoriaeth ddyrchafol sydd hefyd yn addolgar, ac sy’n llawn enaid a dewrder a chariad. Mae ei cherddoriaeth yn crisialu gobaith a chryfder ei chymuned ac mae wedi gwreiddio’n ddwfn yng nghalon Somaliland.