cy

Royal Opera House: Don Giovanni

Dirgelwch rhywiol, cenfigen, ffraethineb, dicter … a dial! Mae Tymor newydd yr Opera Brenhinol yn dechrau gyda champwaith cyffrous Mozart , sy’n dilyn Don Giovanni, y merched y mae’n eu hudo, a’r dial sydd o’r diwedd yn dal i fyny gydag ef. Mae’r opera yn enwog am ei phortreadau o gymeriadau cymhleth, y symud cyflym a’r cymysgedd o’r comig a’r teimladwy. Mae cast o gantorion rhyngwladol – rhai sy’n gyfarwydd ac eraill sy’n gwneud eu début gyda’r Opera Brenhinol – dan yr arweinydd Hartmut Haenchen – yn perfformio arïau ac ensembles godidog yr hoff opera hwn.

Cyd-gynhyrchiad gydag Opera Israel, Gran Teatre del Liceu, Barcelona, a Houston Grand Opera.

Cenir mewn Eidaleg gydag isdeitlau Saesneg
Amser y Perfformiad yn Fras: 3 awr 30 munud