Poems and Pints with the Red Poets

Poems and Pints with the Red Poets

Cyd-sylfaenydd Mike Jenkins (enillydd Llyfr y Flwyddyn), Al Jones, Leanne Evans, Jazz Gerrard a Rebecca Royall yn darllen o’u gwaith mewn noson hamddenol ] o farddoniaeth. Mae croeso i’r rhai sy’n dymuno rhannu eu gwaith gymryd y meicroffon hefyd.
Mae’r Beirdd Cochion yn gasgliad agored o feirdd asgell chwith, y rhan fwyaf ohonynt o Gymru, sydd wedi cyhoeddi cylchgrawn blynyddol ers dros dair degawd ac wedi perfformio mewn clybiau, tafarndai a digwyddiadau ledled Cymru.
TOCYNNAU:
Talwch Beth Allwch Chi: £5, £7.50*, £10
Mae tocynnau ar gyfer llawer o’n sioeau a’n darllediadau byw ar werth ar sail talu beth bynnag allwch chi, sy’n golygu y cewch chi ddewis y pris gorau i’ch poced. Noddir tocynnau lefel isaf, tra mae’r pris uchaf yn rhoi ychydig bach ychwanegol i’r Neuadd Les, sy’n helpu ariannu ein gweithgareddau cymunedol.

Ar gyfer pob digwyddiad, fel canllaw, mae’r pris safonol a awgrymir wedi’i amlygu mewn print trwm gyda *.

Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o'n trydedd ŵyl “Dihuno'r Hydref”, yn dathlu cymunedau glofaol sydd wedi’u cysylltu â’i gilydd gan dreftadaeth ddiwydiannol a diwylliannol trwy gelfyddydau, ymgyrchu, hanes a diwylliant. Bydd yr ŵyl eleni yn canolbwyntio ar dalent a straeon o gymunedau glofaol De Cymru.
Dydd Iau 19 Tach 2026
20:00