cy

Owen Money’s Jukebox Heroes III

Yn dilyn llwyddiant ysgubol Owen Money’s Jukebox Heroes yn 2016, ac yna Owen Money Jukebox Heroes II yn 2018; mae Owen Money yn ôl gyda sioe fyw arall llawn doniau sy’n cynnwys cerddoriaeth ei raglenni radio poblogaidd ar y penwythnos ar BBC Cymru; ac wrth gwrs ei arddull unigryw o gomedi a’i hiwmor Cymreig!

Ie, rydych chi wedi dyfalu’n gywir, Owen Money’s Jukebox Heroes III …

Yn ymuno ag Owen ar y llwyfan mae ei fand gwych ‘The Travelling Wrinklies’ a fydd yn cyfeilio i deyrngedau syfrdanol i rai o chwedlau’r Byd Cerddoriaeth.

Bydd Owen a’r band yn cyfeilio i leisiau syfrdanol Alex John wrth iddynt ail-greu synau arloesol The Beach Boys. Paratowch i gael eich syfrdanu wrth i Katie Mittell dalu gwrogaeth i’r Chwedlau Soul Mwyaf fel Aretha Franklin, Etta James a Nina Simone…