cy

NT Live: Leopoldstadt

Drama newydd Tom Stoppard yw hon a enillodd Wobr Olivier.

Mae Leopoldstadt yn ddrama angerddol am gariad, teulu a dygnwch.
Ar ddechrau’r 20fed ganrif, hen ardal boblog, Iddewig o Vienna, Awstria, oedd Leopoldstadt. Ond mae Hermann Merz, perchennog ffatri ac Iddew sydd wedi ei fedyddio ac yn briod â’r Babyddes, Gretl bellach, wedi dyrchafu yn y byd.

Dilynwn stori ei deulu dros gyfnod o hanner canrif, gan basio drwy derfysgoedd rhyfel, gwrthryfel, tlodi , cyfeddiannaeth y Natsïaid a’r Holocost. Mae cwmni o 40 o actorion yn cynrychioli pob cenhedlaeth yn y ddrama epig ond agos-atoch hon.

Ffilmiwyd yn fyw ar lwyfan y West End, Llundain. Mae gwaith Tom Stoppard yn ‘gampwaith godidog’ (Independent) na ddylech ei fethu.

Dydd Iau 27 Ion 2022
19:00