cy

NT Live: Hansard (15)

Yn y ddrama newydd sbon hon gan Simon Wood, gwelir enillydd Gwobr Olivier ddwywaith Lindsay Duncan (Birdman, About Time) ac Alex Jennings, (The Lady in the Van, The Queen), yn fyw o’r Theatr Genedlaethol yn Llundain.

Mae’n fore o haf ym 1988 ac mae Robin Hesketh, gwleidydd Torïaidd, wedi dychwelyd adref i’r tŷ delfrydol yn y Cotswolds y mae’n ei rannu gyda’i wraig, Diana, y bu’n briod â hi ers 30 o flynyddoedd. Ond nid yw popeth mor ddedwydd ag y mae’n ymddangos. Mae Diana yn dioddef o effeithiau yfed, mae llwynog yn dinistrio’r ardd, ac mae cyfrinachau’n dod i’r golwg ym mhob man. Wrth i’r diwrnod fynd yn ei flaen, mae’r hyn sy’n dechrau fel tynnu coes a rhythmau cyfarwydd cwerylon priodasol yn troi’n helwriaeth yn gyflym iawn.