cy

NT Live: A Midsummer Night’s Dream (12A)

A Midsummer Night’s Dream
Gan William Shakespeare

Mae Brenin a Brenhines tylwyth teg y goedwig yn cweryla â’i gilydd ac yn croesi llwybrau gyda phedwar o gariadon sydd wedi rhedeg i ffwrdd a grŵp o actorion sy’n ceisio ymarfer drama. Wrth i’w cweryl dyfu, mae’r cwpl brenhinol hudolus yn ymyrryd â bywydau meidrolion gan arwain at drionglau caru, cymysgu pwy ydy pwy a thrawsnewidiadau… gyda chanlyniadau doniol, ond tywyll.

Bydd comedi ramantus enwocaf Shakespeare yn cael ei chyfleu’n fyw o’r Bridge Theatre yn Llundain. Mae Gwendoline Christie (Game of Thrones), Oliver Chris (Green Wing, NT Live: Young Marx), David Moorst (NT Live: Alluwah! ) a Hammed Animashaun (The Barber Shop Chronicles ) yn arwain y cast fel Titania, Oberon, Puck a Bottom.