¡No Pasarán!

¡No Pasarán!

Gan mlynedd i eleni ymosododd Francisco Franco a'i luoedd ffasgaidd ar lywodraeth ddemocrataidd Sbaen yn enw Ffasgiaeth. Aeth cannoedd o Gymry i ymladd yn eu herbyn. Ddaeth rhai ddim yn ôl – pobl fel Frank Zamorra o Abercraf a Jim Strangward o'r Onllwyn. 

Byddwn ni'n cofio'r frwydr yn erbyn ffasgiaeth drwy gyfrwng geiriau a cherddoriaeth o'r cyfnod ofnadwy yma yn y digwyddiad anffurfiol yma yn y bar.
Bydd cerddoriaeth gan 'Caws a Bara' (Tracy Hales, Geraint Roberts ac Ian 'Titch' Thomas) a darlleniadau o weithiau Lorca, Orwell ac eraill.
TOCYNNAU:
Talwch Beth Allwch Chi: £0,£4*, £8
Mae tocynnau ar gyfer llawer o’n sioeau
a’n darllediadau byw ar werth ar sail talu
beth bynnag allwch chi, sy’n golygu y cewch
chi ddewis y pris gorau i’ch poced. Noddir
tocynnau lefel isaf, tra mae’r pris uchaf yn
rhoi ychydig bach ychwanegol i’r Neuadd
Les, sy’n helpu ariannu ein gweithgareddau
cymunedol.
Ar gyfer pob digwyddiad, fel canllaw, mae’r
pris safonol a awgrymir wedi’i amlygu
mewn print trwm gyda *.
Dydd Mercher 23 Medi 2026
19:00