Beth sy’n gwneud tad gwych? Mae Martin yn meddwl ei fod yn gwybod ac yn benderfynol o rannu’r wybodaeth. Mae’r daith ddoniol-dywyll, lawn teimlad hon yn archwilio’r tadau wnaeth siapio Martin – o Darth Vader i’w arwr yn ei blentyndod, Indiana Jones. Gan gynnwys ail greu ffilmiau yn fyw, dynwarediadau llai na pherffaith o Harrison Ford a gwahoddedigion annisgwyl ar y sgrin, mae’r sioe hon yn siarad â phob tad sydd erioed wedi ystyried a yw’n ddigon.
Ond i Martin mae’n ymddangos bod llawer mwy yn y fantol – ai achub ei fab, neu ei achub ei hun sydd dan sylw?
Gan Keiron Self a Kevin Jones