cy

Luke Daniels & Nancy Kerr

Luke Daniels a Nancy Kerr

Mae dau o berfformwyr gorau sin werin Prydain wedi dod at ei gilydd ar gyfer rhai sioeau i berfformio eu cerddoriaeth eu hunain a cherddoriaeth ei gilydd. Ers datganiad unigol, nodedig Daniels What's Here What's Gone yn 2014, mae wedi gosod nifer o farciau eraill ar y map cerddorol. Yn Revolve and Rotatefe’i gwelwyd yn cludo’r hyn oedd agosaf at hi-fi yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, disgiau dur enfawr y polyffon, i drawsgrifiad modern. Hyn i gyd, yng nghyd-destun gyrfa yn chwarae melodên ar gyfer actiau fel Jethro Tull a Riverdance.

Mae Nancy Kerr yn un o gerddorion gwerin mwyaf enwog ei chenhedlaeth, ac mae hyd yma wedi ennill 6 Gwobr Werin gan BBC Radio 2. Mae'r ddeuawd newydd hon yn addo bod yn gymysgedd syfrdanol o gerddoriaeth werin gyfoes a rhyfeddod offerynnol ysbrydoledig.

Pris: £10 / £8

Dydd Gwener 8 Maw 2019
20:00