Wedi’i ysbrydoli gan y ffilm Americanaidd glasurol.
Mae stori’r George Bailey llawn delfrydau yn datblygu wrth iddo ystyried dod â’i fywyd i ben un Noswyl Nadolig dyngedfennol. Bydd yn cymryd help gan angel hoffus, Clarence, i George newid ei feddwl a deall gwir ysbryd y Nadolig.
Gyda cherddoriaeth fyw a chast o chwe actor sy’n dod â stiwdio recordio radio a thref Bedford Falls yn fyw, mae’r Lighthouse Theatre a Chanolfan Gelfyddydau Pontardawe yn dod â’r ffilm glasurol ddiamser a’r ffefryn tymhorol hwn i’n sylw.
* Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Thŷ Cerdd