Mae'r band cerddoriaeth byd Indo-Gymreig Khamira yn ymweld â'r Neuadd Les Ystradgynlais am y tro cynta' ers 2017 fel rhan o'i taith o Gymru.
Yn cynnwys 3 cerddor o Gymru a 3 o India, mae Khamira yn perfformio 'Cerddoriaeth Byd Byr-fyfyr' – yn cyfuno cerddoriaeth werin Gymreig, cerddoriaeth glasurol Hindustani, jazz a roc.
Mae Khamira wedi perfformio mewn gwŷliau ledled y byd o India i Dde Korea ers 2015 a gwanethon nhw ryddhau ei hail albym 'Undod / Unity' y llynedd.
Ma' cerddoriaeth Khamira yn gymysgedd llwyr o Gerddoriaeth Byd – dychmygwch gerddoriaeth sinematig Pat Metheny a band ffync Miles Davis o'r 70au wedi ei plethu gyda alawon gwerin Cymru a cherddoriaeth glasurol India. Noson o gerddoriaeth Byd o Gymru a India i'w gofio.