Juan Martin playing guitar

Juan Martín: ¡Alma y Pasión!

Wedi ei gydnabod fel un o’r tri gitarydd flamenco gorau yn y byd gan Guitar Player USA, mae’r anhygoel Juan Martín wedi perfformio mewn cyngherddau o Shanghai i Melbourne i Efrog Newydd a Gŵyl Jazz Montreux.

Perfformiodd yn nathliadau pen-blwydd Picasso yn 90 oed ac mae ei lyfrau a’i ffilmiau ar ddysgu’r gitâr wedi cael eu cyfieithu i nifer fawr iawn o ieithoedd. Cyfeirir at ei lyfr gwreiddiol ‘El Arte Flamenco de la Guitarra’ fel Beibl y gitâr flamenco.

Ar gyfer 2025 mae’n cyflwyno ei sioe unigol, ¡Alma y Pasión! sy’n crynhoi hanfod ei arddull; yn llawn enaid ac angerdd. Peidiwch â cholli cyfle unigryw i’w weld – yma yn Ystradgynlais!