LORE yw’r cynhyrchiad newydd gan y cwmni dawns arobryn James Wilton Dance. Mae’n daith wedi’i hysbrydoli gan lên gwerin i fyd paganaidd o dduwiau, cythreuliaid a bodau dynol, i gyd wedi’u hymgorffori trwy athletiaeth arallfydol.
Mae’r trac sain a gyfansoddwyd yn arbennig gan Michal Wojtas, sy’n tynnu ar ddylanwad cerddoriaeth werin Lychlynnaidd, Celtaidd a Slafig, fel gwrando ar y straeon a adroddwyd gan ein cyndeidiau wrth eistedd mewn llannerch yn y coed, a chlywed y straeon hynafol sy’n clymu dynoliaeth at ei gilydd.