James Wilton Dance – Bach Reimagined at The Welfare Ystradgynlais, Swansea

James Wilton Dance: Bach Reimagined

Mae Bach Reimagined yn berfformiad syfrdanol sy’n cyfuno cerddoriaeth bwerus ac athletiaeth anhygoel. Dychmygwch ddawnswyr medrus yn symud gyda cheinder perfformwyr bale, ond gyda phŵer crai mabolgampwyr. Mae eu symudiadau’n cyd-fynd yn berffaith â synau trydanol soddgrwth metel trwm, chwaraeir gan y cerddor o Ganada, Raphael Weinroth Browne.

Mae’r cynhyrchiad yma yn fwy na chyflwyniad gweledol a sonig, mae hefyd yn ymchwilio i fyd Johann Sebastian Bach, un o gyfansoddwyr mwyaf annwyl hanes a oedd yn credu bod cerddoriaeth yn fodd i ni gysylltu â rhywbeth arallfydol. Mae’r perfformiad hefyd yn archwilio’r chwyldro gwyddonol a oedd yn digwydd ochr yn ochr â gwaith Bach, gyda chyfeiriadau at ddarganfyddiadau arloesol Syr Isaac Newton.

Mae Bach Reimagined yn ddigwyddiad cyffrous a wirioneddol werth ei weld, fydd yn eich gadael wedi’ch ysbrydoli.

TOCYNNAU:
Talwch Beth Allwch Chi:
£10, £12, £14, £16, £18*, £20, 22 (*Pris Safonol a Awgrymir)

Mae tocynnau ar gyfer llawer o’n sioeau a’n darllediadau byw ar werth ar sail talu beth bynnag allwch chi, sy’n golygu y cewch chi ddewis y pris gorau i’ch poced. Noddir tocynnau lefel isaf, tra mae’r pris uchaf yn rhoi ychydig bach ychwanegol i’r Neuadd Les, sy’n helpu ariannu ein gweithgareddau cymunedol.

Ar gyfer pob digwyddiad, fel canllaw, mae’r pris safonol a awgrymir wedi’i amlygu mewn print trwm.

Dydd Sadwrn 28 Chw 2026
19:00