Indefinite Articles: Claytime
Cwmni arobryn Indefinite Articles yn cyflwyno gwaith ar gyfer y rhai ieuangaf: Claytime, drama gyda chlai, sy’n eich gwahodd CHI i gymryd rhan.
Dewch i le lle mae deunydd naturiol y ddaear yn cwrdd â dychymyg plant: byd o ffurfiau gwych, anifeiliaid anhygoel ac angenfilod trawsnewidiol. Mae pob Claytime yn gwbl unigryw – yn creu ei fyd ei hun, ei gymeriadau ei hun a’i straeon ei hun yn deillio’n uniongyrchol o’r gynulleidfa ifanc. Theatr ryngweithiol go iawn ar ei mwyaf deniadol.
Gwnaethpwyd y sioe hon gydag ac ar gyfer plant 3 i 6 oed.
Talwch Beth Allwch Chi: £8.50,£10.50, £12.50, £14.50*, £16.50, £18.50
Mae tocynnau ar gyfer llawer o’n sioeau a’n darllediadau byw ar werth ar sail talu beth bynnag allwch chi, sy’n golygu y cewch chi ddewis y pris gorau i’ch poced. Noddir tocynnau lefel isaf, tra mae’r pris uchaf yn rhoi ychydig bach ychwanegol i’r Neuadd Les, sy’n helpu ariannu ein gweithgareddau cymunedol.
Ar gyfer pob digwyddiad, fel canllaw, mae’r pris safonol a awgrymir wedi’i amlygu mewn print trwm gyda *.