cy

I Wish I Was a Mountain

I Wish I Was A Mountain

Wedi’i seilio ar Faldum – Stori dylwyth teg gan Hermann Hesse 

Ar ddiwrnod y ffair flynyddol enwog, mae ymwelydd annisgwyl yn rhoi tro am dref Faldum. Sef crwydryn sy’n cynnig gwireddu dymuniad y neb a’i myn. Cyn pen dim mae’r ddinas ar newydd wedd. Saif plastai lle cynt llechai cytiau pridd, ac mae cardotwyr yn mynd o gwmpas mewn ceir a cheffyl. Ac mae un dyn sydd am gael ei droi’n fynydd.

Un o Bencampwyr gynt Barddoniaeth Slam Ynys Wydrin, Toby Thompson, a sgrifennodd ac sy’n perfformio I Wish I was a Mountain, sy’n defnyddio odl, cerddoriaeth fyw, a rhyw flewyn bach o athroniaeth fetaffisegol i ail-ddychmygu’n feiddgar stori dylwyth teg glasurol Hermann Hesse.

Oes arnon ni go iawn angen y pethau sydd arnon ni’u hangen? Be mae mynyddoedd yn ei deimlo? Sut y cychwynnodd amser?

Gofynnwn yn garedig i oedolion adael atebion yr holl gwestiynau yma wrth y drws. Blant, dowch fel rydych chi.

Oed: 8+

Stunning … A profound show that reveals Thompson to be a star in the making … few shows have been so entrancingThe Guardian

Crëwyd yn yr egg Incubator. Cyd-gynhyrchwyd gan yr egg a Travelling Light Theatre Company.

Cyflwynir ar daith yng Nghymru gan Theatr Iolo

Sgrifennwyd a Pherfformir gan: Toby Thompson | Y Cyfarwyddo a’r Ddramäwriaeth gan: Lee Lyford | Dyluniwyd gan: Anisha Fields

Comisiynwyd ar y cyd gan Imaginate a Brighton Dome dan Nawdd The Tulip Partnership a Swainswick Explorers