cy

Gwledd (The Feast) (18)

Ffilm yn Iaeth Cymraeg, gyda isdeitlau Saesneg

Pan mae gwledd yn cael ei chynnal mewn cartref moethus, anghysbell, does dim syniad gan y teulu sy’n byw yno o’r hunllef arswydus sydd ar y gorwel. Mae menter fwyngloddio’r teulu yn y fantol ac mae meddyliau pawb ar achub y cynllun gwerthfawr. Mae’r ferch dawel sydd wedi’i chyflogi i weini’r bwyd yn bwrw cysgod dros y parti. Ac wrth i’r noson fynd yn ei blaen, mae Cadi’n dechrau herio egwyddorion y teulu yn araf deg er mwyn dinistrio’r rhith mae’n nhw’n glynu ato, gyda chanlyniadau brawychus.

Ffilm arswyd gyfoes, iasol, newydd yw GWLEDD, sef ffilm nodwedd gofiadwy gyntaf Lee Haven Jones, yn serennu rhai o actorion mwyaf adnabyddus Cymru. Mwy o wybodaeth yma.

Amser Rhedeg: 93 munud