Flossy and Boo: Blaidd
Udwch ar y lleuad a llamu’n wyllt gyda'ch cnud,
Carlamwch i’r coed, troi’ch cefn ar y byd
Anturiwch heb wybod pa beth sy’n eich aros,
Trwy goedwigoedd dychymyg i’n cartref bach clòs.
Mae Blaidd yn brofiad theatr aml-synhwyraidd dwyieithog i blant dan 5 oed a'u teuluoedd. Mae ei ffocws ar adrodd straeon, iaith a dad-ddofi’n hunain.
Mae'r cynhyrchiad hwn yn plethu'r Gymraeg a'r Saesneg yn llyfn. Mae’n berffaith i bobl ddi-Gymraeg, siaradwyr Cymraeg rhugl a dysgwyr Cymraeg ac mae'n wych i feddyliau ifainc.
Mae'r cynhyrchiad hwn yn plethu'r Gymraeg a'r Saesneg yn llyfn. Mae’n berffaith i bobl ddi-Gymraeg, siaradwyr Cymraeg rhugl a dysgwyr Cymraeg ac mae'n wych i feddyliau ifainc.
