cy

Familia De La Noche: Frogs in Bogs

Yn 2023, roedd uned o blymwyr, criw o frogaod handi, o dan glo am drosedd halogi nad oeddent yn gyfrifol amdano. Dihangodd yr arwyr gwyrdd a ffoi i dduwch carthffosydd y ddinas.

Heddiw, â’r llywodraeth llysnafeddog dal yn eu hel, mae nhw’n goroesi yng nghrombil y ddaear. Carcharorion dewr ar droed yn barod i wasanaethu trigolion y ddinas. Ych a fi’s yn eich pibau? Gwynt ffiaidd yn ffrydrio’r ffenestri? Dim problem! Galwch ar BROGS Y BOGS!

Ymunwch â Brogs y Bogs, archarwyr y llyffantod, a helpwch nhw i ffrwydro drwy’r ffosydd a difetha’r Cwac Tŷ Bach yn y sioe newydd hon gan Familia. Dewch i neidio, dawnsio a chwerthin llond eich bol gyda’r amffibiaid anhygoel, fydd yn siwr o ddiddanu’r teulu cyfan.

Mae bwrlwm Brogs y Bogs yn berffaith ar gyfer plant 4+ oed o bob gallu ac yn cael ei gyflwyno’n ddwyieithog, ac yn gyflwyniad gwych i theatr i bobl ifanc.

Amser Rhedeg: Tua 45 munud.

Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.