Frida-Kahlo

EXHIBITION ON SCREEN: Frida Kahlo

Ffenomen yw Frida Kahlo. Gellid dadlau taw hi yw artist benywaidd mwyaf poblogaidd
y byd – addolwyd gan yr hen a’r ifanc. Mae ffilm arobryn “Exhibition on Screen” yn
cynnwys cyfraniadau gan guraduron yr arddangosfa drawsatlantig boblogaidd yn y
Tate Modern a’r MFA Houston – ‘Frida Kahlo: the Making of an Icon’.

Talwch Beth Allwch Chi: £7.50, £10*, £12.50
Mae tocynnau ar gyfer llawer o’n sioeau
a’n darllediadau byw ar werth ar sail talu
beth bynnag allwch chi, sy’n golygu y cewch
chi ddewis y pris gorau i’ch poced. Noddir
tocynnau lefel isaf, tra mae’r pris uchaf yn rhoi
ychydig bach ychwanegol i’r Neuadd Les, sy’n
helpu ariannu ein gweithgareddau cymunedol.
Ar gyfer pob digwyddiad, fel canllaw, mae’r
pris safonol a awgrymir wedi’i amlygu
mewn print trwm gyda *
Dydd Iau 30 Gor 2026
13:00
Dydd Iau 30 Gor 2026
19:00