Elio (U)
Ers canrifoedd, mae pobl wedi galw allan i'r bydysawd yn chwilio am atebion; yn y ffilm newydd hon gan Disney/Pixar mae'r bydysawd yn galw'n ôl!
Mae gan Elio ddychymyg bywiog ac yn anfwriadol mae’n cael ei gludo i fyny i'r Communiverse, sefydliad rhyngblanedol gyda chynrychiolwyr o alaethau ymhell ac agos. Caiff ei gamgymryd fel llysgennad y Ddaear gan weddill y bydysawd, ac yntau’n gwbl amharod ar gyfer y math hwnnw o bwysau, rhaid i Elio ffurfio bondiau newydd gyda ffurfiau bywyd estron ecsentrig, goroesi cyfres o dreialon aruthrol a rhywsut darganfod pwy ydyw i fod mewn gwirionedd.
Hyd y Ffilm: 98 munud
