Dinomania – Y profiad deinosor gorau gartref!
Sioe ddeinosor arbennig ar-lein ar gyfer plant 3+ oed
Yn galw ar bawb sy’n dwlu ar ddeinosoriaid! Ydych chi’n barod am antur
rhu-feddol? Os felly, bant â ni!
Ymunwch â Ranger Chris wrth iddo deithio’n ôl mewn amser i gwrdd â bwystfilod cyn-hanesyddol a fydd yn ddigon i godi gwallt eich pen! O’r T.Rex brawychus i’r arswydus Deinonychus ac Allosaurus, y Triceratops tri chorn i’r Carnotaurus ffyrnig – cewch gwrdd â phob un ohonynt! Ond dim ond os gallwch chi helpu Ranger Chris i deithio’n ôl drwy amser. Ydych chi’n meddwl allwn ni wneud e?
Dewch i gwrdd â’r deinosoriaid anhygoel a dysgu popeth amdanyn nhw a’u byd gyda Ranger Chris, eich tywysydd dewr. Deinosoriaid cyn-hanesyddol realistig go iawn eu maint!
Hyd: tua 15 – 20 munud.
Cynnig cynnar: Pris tocynnau yw £5 y cartref pan brynwyd 24 awr cyn y sioe, a £7.50 ar ddiwrnod y sioe. Dim ond un tocyn sydd ei angen fesul cartref.
Hawlfraint © 2021 Dinomania – C & L Entertainment Ltd – Cedwir pob Hawl