cy

Deborah Light: An Autopsy of a Mother, a Bear and a Fridge

An Autopsy of a Mother a Bear and a Fridge
Gan yr Ysgogydd, Gwneuthurwraig a’r Fam Deborah Light

‘Rage hides a wound’ Sharon Blackie

Fe’ch gwahoddir yn gynnes i fod yn dyst i archwiliad tri gwrthrych sy’n ymddangos yn gwbl ddigyswllt. Wrth i Deborah ddarganfod llinyn cyswllt rhwng mam, arth ac
oergell mae’n dadlennu ei bregusrwydd, ei dicter, ei hiwmor a’i chryfder ei hun.
Gyda chreulondeb oeraidd, didwylledd cynnes a chynddaredd ffeministaidd tanllyd
mae’n datgelu profiadau personol a systemau patriarchaidd sy’n rhoi pwysau ar y
corff benywaidd.

Profiad dawns/theatr grymus ac agos atoch, wedi’i ddilyn gyda the, teisen a sgwrs, yn cynnig cyfle i fyfyrio ar y sioe a’i themâu a’u trafod mewn awyrgylch anffurfiol.

Mae sgript (bapur neu ddigidol) ar gael ymlaen llaw ar gais ac yn y perfformiad. Mae’r sgript hon yn cynnwys pwyntiau cyfeirio gweledol a manylion ynghylch y gerddoriaeth / elfennau sain sy’n rhan o’r cynhyrchiad.

Ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru
Cefnogir gan Chapter, CDCCymru, YMa a Taking Flight

Drysiau: 7yh
Perfformiad: 7.30yh