Mae’n 1984, ymunwch â Dale a’i ffrindiau wrth iddyn nhw wynebu’r holl gyffro, creulondeb a chynddaredd y mae’r streic yn ei daflu atyn nhw. Ymladd wrth y llinell biced, peintiau yn y dafarn, cosfa yn Orgreave, mae Undermined yn adrodd stori go iawn y streic ac yn seiliedig ar straeon y glowyr oedd yno.
Bydd y stori bwerus, egnïol a hynod ddynol hon, sy’n cael ei hadrodd gan ddim ond un dyn, un gadair ac un peint, yn gwneud i chi chwerthin, crio ac ysgwyd â dicter.