Prosiect Owen Shiers, un o frodorion Dyffryn Clettwr yw’r prosiect Cynefin. Wedi’i gyfareddu gan gerddoriaeth a hanes, mae’n gais i roi llais i dreftadaeth gyfoethog Ceredigion sydd eisoes wedi mynd yn angof. Wrth gychwyn ym mhentref Capel Dewi yn Nyffryn Clettwr, sef bro ei mebyd, a theithio’r trwy’r tirlun cerddorol lleol mae Owen wedi dadorchuddio hen straeon, cerddi a chaneuon, ac wedi rhoi bywyd newydd iddynt yn y presennol.
Derbyniodd Cynefin tri enwebiad yng Ngwobrau Gwerin Cymru 2023, ac mae’r prosiect yn rhoi llwyfan i Owen i drin ei sgiliau cyfeilio wrth ddychwelyd yn ôl i’w gwreiddiau. Bydd Owen a’r band yn teithio albym newydd, sef ‘Shimli’, sydd yn rhoi cipolwg unigryw ar ddiwylliant llafar ac arferion y gorffennol, wrth hefyd trafod yr heriau cyfoes sy’n gwynebu cefn gwlad a chodi cwestiynau o gylch ein hanhwylder modern o ddatgysylltu a diwreiddio.
“Anhygoel” – Huw Stephens