Consortiwm Cymraeg: Addysgu Rita
Y Consortiwm Cymraeg yn Cyflwyno’r Gomedi Addysgu Rita gan Willy Russell, wedi’I gyfieithu gan Gwawr Loader
Y ddrama a enillodd Wobr Olivier, yn y Gymraeg am y tro cyntaf erioed.
Pan mae Rita, merch briod sy’n trin gwallt, yn cofrestru ar gwrs prifysgol er mwyn ehangu ei gorwelion, does ganddi ddim syniad beth fydd diwedd y daith. Dyw ei thiwtor sinigaidd, Frank, y bardd rhwystredig, yr academydd disglair a’r yfwr ymroddedig, ddim yn frwdfrydig iawn i gymryd Rita dan ei adain. Ond daw’r ddau i sylweddoli cymaint sydd ganddyn nhw i ddysgu oddi wrth ei gilydd.
Bydd y gomedi ddoniol a chynnes hon yn swyno cynulleidfaoedd ledled Cymru.
“Wrth wraidd y ddrama mae bod dynol sy’n awchu am rywbeth gwell, ac mae hynny’n brofiad sylfaenol a chyntefig.”
TOCYNNAU:
Talwch Beth Allwch Chi: £13, £16, £19*, £22*, £25 £28
*Rydym yn argymell y prisiau tocynnau canlynol: £19 am Gonsesiynau | £22 Pris Llawn
Mae tocynnau ar gyfer llawer o’n sioeau a’n darllediadau byw ar werth ar sail talu beth bynnag allwch chi, sy’n golygu y cewch chi ddewis y pris gorau i’ch poced. Noddir tocynnau lefel isaf, tra mae’r pris uchaf yn rhoi ychydig bach ychwanegol i’r Neuadd Les, sy’n helpu ariannu ein gweithgareddau cymunedol.
Ar gyfer pob digwyddiad, fel canllaw, mae’r pris safonol a awgrymir wedi’i amlygu mewn print trwm.
Y Consortiwm Cymraeg presents the Comedy Addysgu Rita (Educating Rita) by Willy Russell, translated by Gwawr Loader
The Olivier Award Winning play in Welsh for the very first time
When Rita, a married girl who works as a hairdresser, enrolls in a university course in order to broaden her horizons, she has no idea what the end of the journey will be.
Her cynical tutor, Frank, the frustrated poet, brilliant academic and committed drinker, is not very enthusiastic about taking Rita under his wing. But they both come to realize how much they have to learn from each other.
This funny and warm comedy will delight audiences throughout Wales.
“At the heart of the play is a human being who hungers for something better, and that is a basic and primitive experience.”
TICKET PRICES:
Pay What You Can: £13, £16, £19*, £22*, £25 £28
*Recommended Ticket Prices: £19 for Concessions | £22 Full Price
Tickets for many of our live shows and live broadcasts are on a pay what you choose basis, which means you can choose the price that best suits your pocket. The lower ticket levels are subsidised, the top price puts a little extra into The Welfare, helping to fund our community activities.
For each event the suggested standard price is highlighted in bold as a guide.