Company Of Sirens Yn Cyflwyno Water Wars
Gan Ian Rowlands | Cyfarwyddwyd gan Chris Durnall | Sgôr Gwreiddiol gan John Meirion Rea
Cast Yn Cynnwys Siwan Morris, Owen Arwyn a Jâms Thomas
PWY SY’N BERCHEN AR Y GLAW?
“BETH SY’N GWNEUD I CHI FEDDWL EIN BOD NI’N BAROD I SYCHEDU I FARWOLAETH, ER MWYN I CHIALLU DDYFRIO LAWNTIAU SURBITON?”
Pan wnaeth dinas Lerpwl fynnu i adeiladu argae ar draws afon Tryweryn yn y 60au, yn groes i ddymuniadau gwleidyddion Cymreig a phobl Cymru, bu ail ddeffro’r awydd i gael hunan lywodraeth i’r wlad. Ddeugain mlynedd ynddiweddarach gellid ddadlau bod argae Tryweryn wedi arwainyn uniongyrchol at ddatganoli.
Yn Water Wars, mae Lloegr yngoresgyn Cymru er mwyn dwyn ei hadnoddau ac er mwyncynnal ei hecoleg ai hun. Mae Water Wars yn ddrama gyffro eco sy’n hynod berthnasol i gymunedau Cymru heddiw.
Mae Ian Rowlands yn ddramodydd adnabyddus rhyngwladol o Gaerfyrddin. Mae eiddramau yn cynnwys ‘Marriage of Convenience’, ’Troyanne’, ‘Love in Plastic’, ‘Blue Heron in the Womb’, ‘The Sin Eaters’, ‘Glissando onan Empty Harp’ ac ‘Aurora Borealis’.
Mae’r cynhyrchiad yn gwbl ddwyieithog, a bydd ap cyfieuthu Sibrwd ar gael.
Mae’r ddrama hon yn cynnwys iaith gref a golygfeydd o drais.
Gan gynnwys sgwrs ar ôl y sioe.
“DYCH CHI EISIAU’N DWR NI GAN FOD SYSTEM ECO LLOEGR WEDI GWIRIONI;
O’R CANOLBARTH I’R DE MAE’CH LEFELAU DWR MOR ISEL, FEL BO’ CHI’N GORFOD SUGNO GWYDRIAD O DDWR YN SYCH FEL PETAE. AC AM SWN HYLL. A DYN NI’N TEIMLO’N FLIN DROSOCH CHI, YN WIR I CHI.
OND DYN NI ‘DI HEN FLINO O GAEL EIN SGRIWIO DROSODD ER MWYN CYFLAWNI EICH HANGHENION CHI SAIS.
MAE’N DWR NI YN YN CYNNAL EIN HANGHENION NI YN UNIG. HEB HYNNY MAE EIN GALLU NI I OROESI YN DIFLANNU”
Comisiynwyd Water Wars yn wreiddiol gan National Theatre Wales, ac fe’i datblygwydgan yr awdur a Theatr Pen Cymru yn 2020