cy

Cofio Adelina Patti Remembered

Mae mis Medi 2019 yn nodi can mlynedd ers i’r gantores opera Adelina Patti, un o’r sopranos gorau mewn hanes, farw yn ei chartref yng Nghraig-y-Nos ym Mhowys. Disgrifiodd y Cyfansoddwr Giuseppe Verdi hi fel un o’r cantorion gorau a fu erioed ac yn “artist aruthrol.”

I goffáu’r canmlwyddiant, ymunwch â ni yn y Neuadd Les wrth i ni ddathlu ei bywyd. Bydd y noson yn cynnwys anerchiad byr ar fywyd Patti ac yna ffilm gyda rhai o’i heitemau cerddorol yn cael eu perfformio gan Academi Canu Vaughn-Lewis.

Gallwch weld mwy o ddigwyddiadau lleol sy’n gysylltiedig ag Adelina Patti yma!

Thursday 26 Sep 2019
19:00