cy

Coal | Du Fel y Glo

Noson o gerddi, alawon, caneuon, a hanesion o gymunedau ein meysydd glo.

Mae’r cerddor gwerin rhyngwladol Aneirin Jones (Vrï, No Good Boyo) dod yn ôl i Gwm Tawe, i ble dechreuodd ei siwrne cerddorol. Mae’n ymuno gyda Tracy Hales – a roddodd ei wers ffidil ‘traddodiadol’ cyntaf erioed iddo fe, yn y Neuadd Les – a’r hanesydd a’r cerddor Geraint Roberts, er mwy cofio a dathlu etifeddiaeth y glo.

Buodd glo yn allweddol wrth ffurfio ein cymdogaeth ni yng Nghwm Tawe, a chymunedau ar draws Cymru. Os nag oedd gwaith glo, byddai pobl yn gadael i weithio dan ddaear neu i gefnogi’r rhai a oedd yn gwneud. Bu teuluoedd cyfan yn dibynnu ar y gweithiau, ond o fewn cenhedlaeth fe ddiflannon nhw bron i gyd.

Ond mae creithiau glas ar ôl; a geiriau ac alawon hefyd.

Bu Geraint yn eu casglu ers blynyddoedd, er mwyn cadw’r cof yn fyw. Dyma rai ohonyn nhw. Mae rhai yn ddifrifol, rhai yn drist, a rhai yn ysgafnach. Mae rhai mynd yn ôl i’r achau, a rhai yn fwy diweddar.

Dewch i wrando, ac wedynymunwch gyda ni yn y Bar wedyn er mwyn rhannu eich straeon ac atgofion.

Casglwyd gan Geraint Roberts
Gyda Aneirin Jones (Vrï, No Good Boyo): Ffidil, gitâr, llais
Geraint Roberts: Chwythbrennau, mandolin, llais
Tracy Hales: Soddgrwth, llais