Classic Film Club graphic

Classic Film Club present Wales on Film Double Bill

Dewch i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda’n Clwb Ffilmiau Clasurol.

Daw’r Dangosiad Dwbl Cymru ar Ffilm yma â dau o fawrion y Sgrin Arian ynghyd – Bette Davis yn fersiwn Hollywood o The Corn Is Green gan Emlyn Williams, a pherfformiad hudolus Hayley Mills yn y ffilm ddirdynnol, Tiger Bay.

Ymunwch â ni am un ffilm neu’r ddwy gyda diod a chacennau traddodiadol Cymreig am ddim rhwng y dangosiadau.

TOCYNNAU:
Aelodaeth Flynyddol: £30 am fynediad am ddim i bob ffilm yn rhaglen y Clwb Ffilmiau.
Pawb Arall: £4 y ffilm neu £7 am y ddwy.

Mae ein Clwb Ffilmiau Clasurol yn dangos hen ffilmiau “vintage” poblogaidd o leiaf unwaith y mis.

Mae’n ddigon posib eich bod wedi gweld y ffilmiau clasurol hyn o’r blaen, ond ydych chi wedi’u gweld nhw ar y sgrin fawr tybed?

Dydd Sul 1 Maw 2026
14:00