Celebrating LGBTQ+ History Month: When Love Broke the Law (12A)
Fel rhan o’n cyfraniad at Fis Hanes LHDTC+ mis Chwefror yma, rydym yn cynnal diwrnod llawn o ddigwyddiadau yn dathlu hanes, creadigrwydd ac ymgyrchu hoyw.
Iris on the Move yw arddangosfa deithiol flynyddol yr Iris Prize LHDTC+ Film Festival, sy’n dod â ffilmiau byrion arobryn i leoliadau ledled y DU.
O gusanau gwaharddedig i chwyldro go iawn, mae When Love Broke the Law yn ddangosiad dwbl sy’n dangos mai cariad yw ein gweithred herfeiddiol fwyaf erioed.
Yn Two People Exchanging Saliva, mae hoffter ei hun yn drosedd – ac eto, mae rhywun yn meiddio cusanu. Yn Jackie, mae stori eofn ymgyrchydd lesbiaidd arloesol yn ein hatgoffa taw trwy weithredoedd bychain o ddewrder mae ysgogi newid go iawn. Gyda’i gilydd, mae’r ffilmiau yma’n dathlu chwant, protest, a grym y rhai a wrthododd fyw yn unol â rheolau unrhyw un arall.
CRYNODEB O’R FFILM:
Two People Exchanging Saliva (12A) : Hyd – 36 munud | Ffrangeg gydag Isdeitlau Saesneg
Cyf. Natalie Musteata ac Alexandre Singh (2025 Iris Prize Highly Commended)
Mewn byd ffarsaidd lle mae cusanu yn ennyn cosb marwolaeth, mae siopwr personol yn herio’r status quo.
Jackie (12A) | Hyd : 20 munud | Saesneg, Dim Isdeitlau
Cyf. Emily Sargent. Yr Alban, DU, 2025. (Noson Agoriadol 2025)
Rhaglen ddogfen fer am fywyd Jackie Forster; ymgyrchydd hawliau LHDTC+ arloesol, bryfoclyd – ac anhysbys i raddau helaeth – a sefydlodd wasanaeth tanddaearol o roddwyr sberm i helpu’r menywod cwiar cyntaf i gael plant. Dyma’r drydedd ffilm sydd wedi cael ei gefnogi gan yr Iris Prize Documentary Film Finance Fund a noddir gan OUTFlix.
Mae’r diwrnod hefyd yn cynnwys dangosiad o Iris On The Move: When Love Broke The Law dwy ffilm fer LHDTC+ o’r Iris Prize Film Festival; darlleniad barddoniaeth a digwyddiad panel Holi ac Ateb gyda Simon Maddrell, arwr Lesbians & Gays Support the Miners, Jonathan Blake a Chyfarwyddwr yr Iris Prize, Berwyn Rowlands ac yna egwyl am fwyd, a dangosiad gyda’r nos o’r ffilm Pride o 2014, sy’n adrodd stori wir am y gynghrair annisgwyl rhwng ymgyrchwyr LHDTC+ a glowyr ar streic yn ystod streic y glowyr 1984–85.
TOCYNNAU:
Pris tocynnau’r gweithdy barddoniaeth £5.
Pris tocynnau’r dangosiadau ffilm yn dechrau o £4.40.
Mae’r digwyddiad darllen barddoniaeth a phanel Holi ac Ateb am ddim.
GOSTYNGIADAU:
Archebwch docynnau ar gyfer unrhyw ddau ddigwyddiad yn y rhaglen a derbyniwch ostyngiad o £1.50 (gostyngiad awtomatig wrth dalu).
Ydych chi’n bwriadu mynychu’r holl ddigwyddiadau?
Archebwch Docyn Dydd am £12, fydd yn rhoi mynediad i bob digwyddiad drwy gydol y dydd, yn dibynnu ar argaeledd.