cy

BRONWEN LEWIS: More From The Living Room

Yn dilyn ei thaith hynod lwyddiannus yn 2022, mae Bronwen yn ei hôl gyda ‘More From The Living Room’. Gan ail-greu profiad hudol ei gigs rhithiol yn fyw ar lwyfan, bydd Bronwen yn perfformio detholiad newydd o’i hoff ganeuon ynghyd â phlethu straeon yn dyner i’r perfformiadau. Mae’n addo bod yn noson wych o adloniant byw.

Mae’r gantores, sydd hefyd yn gallu canu sawl offeryn, ac a greodd gyffro mawr ar Tik-Tok, yn arddangos repertoire amrywiol gan gynnwys detholiad newydd o’i chaneuon gwreiddiol. Gan ddefnyddio’i harddull unigryw o gynnwys yr iaith Gymraeg mewn caneuon poblogaidd, bydd Bronwen yn perfformio’i fersiwn hi o ganeuon poblogaidd, boed hynny’n glasuron Cymraeg traddodiadol neu’n ganeuon poblogaidd cyfredol.

Mae gan y gantores-gyfansoddwraig o Gymru arddull arbennig o gynnes sy’n gyfuniad o ganu gwlad, cerddoriaeth bop, cerddoriaeth werin a’r blŵs. Mae hi’n falch o fod yn ddwyieithog a chafodd glod yn rhyngwladol yn ystod ei chyfnod ar The Voice, sef rhaglen y BBC, pan ddaeth ei pherfformiad â dagrau i lygaid Tom Jones. Hefyd bu Bronwen yn perfformio ac yn canu’r gân thema ‘Bread and Roses’ yn y ffilm ‘Pride’ a enillodd wobr BAFTA.

Peidiwch â cholli’r cyfle hwn! Archebwch le nawr i fod yn rhan o ‘More From The Living Room’ gyda Bronwen Lewis!