cy

An Evening With Mal Pope

Bydd y canwr/cyfansoddwr, darlledwr a chyflwynydd o Gymru, Mal Pope, yn rhannu stori ryfeddol ei yrfa pan fydd yn camu i’r llwyfan ar gyfer y noson arbennig yma.

O recordio gydag Elton John yn Abbey Road i ysgrifennu’r sioeau cerdd uchel eu clod Cappuccino Girls ac Amazing Grace, o’r blynyddoedd a dreuliwyd ar daith gydag Art Garfunkel a Belinda Carlisle i gynhyrchu ac ysgrifennu’r gerddoriaeth ar gyfer y ffilm Jack to a King.

Byddwch chi’n siwr o chwerthin ar rai o straeon Mal yn ogystal â mwynhau rhai o berfformiadau y caneuon y mae e wedi’u hysgrifennu ar gyfer rhai o gewri byd cerddoriaeth fel Cliff Richard, The Hollies, Bonnie Tyler ac Aled Jones.

Dydd Gwener 25 Tach 2022
19:30